R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwr ffisegol meddygfeydd meddygon teulu ym mherchnogaeth y GIG yng Nghymru.OAQ(4)0237(HSS)
2. Lynne Neagle (Tor-faen):A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad Gweinidogol o wasanaethau ambiwlans Cymru.OAQ(4)0241(HSS)
3. Christine Chapman (Cwm Cynon):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gweithwyr gofal iechyd i ymdrin â theuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan y diwygiadau lles presennol. OAQ(4)0230(HSS)
4. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl â chyfrifoldebau gofalu. OAQ(4)0242(HSS)
5. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yn Rhondda Cynon Taf.OAQ(4)0239(HSS)
6. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):Am ba hyd, ar gyfartaledd, y mae parafeddygon yn aros i drosglwyddo cleifion mewn ysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. OAQ(4)0235(HSS)
7. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn amlinellu darpariaeth a chefnogaeth y GIG i weithwyr rheng flaen y gwasanaeth brys sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma sy’n gysylltiedig â gwaith.OAQ(4)0240(HSS)
8. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno archwiliadau iechyd i bobl dros 50 oed. OAQ(4)0234(HSS)
9. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r adroddiadau a gafwyd gan yr Arolygiaeth Iechyd dros y 12 mis diwethaf.OAQ(4)0243(HSS)W
10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa gamau a gymerir gan Lywodraeth Cymru yn ystod 2013 i wella gofal iechyd i rai dros 50 oed yng Nghymru.OAQ(4)0232(HSS)
11. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw gyngor ynghylch diogelwch y cyffur gwrth-iselder Citalopram.OAQ(4)0236(HSS)
12. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth i bobl â dementia yng Nghymru. OAQ(4)0233(HSS)
13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ad-drefnu byrddau iechyd lleol ar draws Cymru. OAQ(4)0231(HSS)
14. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Gweinidog roi manylion am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella gofal i’r henoed dros y 12 mis nesaf.OAQ(4)0238(HSS)
15. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa drafodaethau diweddar a gafodd y Gweinidog gyda chynrychiolwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd i drafod safonau prosesu cig yng Nghymru.OAQ(4)0244(HSS)W TROSGLWYDDWYD I'W ATEB YN YSGRIFENEDIG GAN Y DIRPRWY WEINIDOG AMAETHYDDIAETH, BWYD, PYSGODFEYDD A RHAGLENNI EWROPEAIDD
Gofyn i’r Cwnsler
Cyffredinol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am drafodaethau y mae wedi eu cael ar ddiwygio’r gyfraith. OAQ(4)0045(CGE)W
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
1.
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe):A
wnaiff Comisiwn y Cynulliad ddatganiad am ei gynllun strategol i
ymgysylltu â mwy o bobl ifanc yng Nghymru.OAQ(4)0071(AC)
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau mae’r Comisiwn wedi’u cael ynglŷn â chefnogi grwpiau trawsbleidiol. OAQ(4)0070(AC)W